Y Pwyllgor Cyllid

Digwyddiad i Randdeiliaid 23 Medi 2015: Y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)  

 

Mae'r nodiadau hyn yn cyfleu'r adborth a gafwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid, ond ni fwriedir iddynt fod yn rhestr gynhwysfawr o safbwyntiau pawb a oedd yn bresennol.

Diwylliant a rôl Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod)

-          Mae angen i'r Awdurdod ymwreiddio'r egwyddor bod pob busnes yng Nghymru yn cael triniaeth gyson;

-          Mae Cyllid a Thollau EM yn anghyson o ran y ffordd y mae'n ymdrin â busnesau o wahanol faint (mae'n aml yn fwy llym gyda busnesau llai) a'i anallu i fynd ar drywydd busnesau amlwladol;

-          Mae profiad busnesau bach o Gyllid a Thollau EM, a'r gwasanaeth a gânt, yn dibynnu'n llwyr ar y swyddog achos a neilltuir iddynt;

-          Efallai y byddai'n well gan fusnesau ymdrin ag un corff ar gyfer yr holl drethi, gan gynnwys ardrethi busnes. Ai'r Awdurdod ddylai hwn fod?

-          Dylai Siarter y Trethdalwyr fod yn dryloyw ac yn atebol, dylai fod dyhead i gyfathrebu â threthdalwyr (sy'n llai amlwg gyda Chyllid a Thollau EM). Dylai'r Awdurdod weithio gyda busnesau i ddatrys problemau pryd bynnag y bo modd;

-          Dylai'r Awdurdod gael adain/adran yn cynnig cyngor a fyddai'n hygyrch i drethdalwyr;

-          Mae angen cytuno ar y drefn o ymgysylltu â chwsmeriaid o fewn y contract gyda Chyllid a Thollau EM (os bydd swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu dirprwyo) neu mae perygl o etifeddu'r problemau presennol o ran gwasanaeth cwsmeriaid;

-          Mae Cyllid a Thollau EM yn ymddangos yn rhy agos at Drysorlys EM, a dylai'r broses o ddatblygu polisi trethi yn Llywodraeth Cymru a'r broses o roi'r polisi hwnnw ar waith gan Awdurdod Cyllid Cymru gael eu gwahanu'n eglur. Bydd angen i Brif Weithredwr yr Awdurdod ddangos arweiniad cryf i sicrhau bod adran Cymru o Gyllid a Thollau EM (os bydd swyddogaethau'n cael eu dirprwyo iddi) yn mabwysiadu diwylliant gwahanol wrth gasglu trethi;

 

 

 

-          Pryder y bydd Cyllid a Thollau EM yn pennu prosesau casglu heb fawr ddim gwybodaeth am Gymru, os o gwbl - angen cyfarwyddyd eglur gan Awdurdod Cyllid Cymru o ran sut y dylid rhedeg pethau, neu efallai bod angen swyddfa yng Nghymru?

-          Dylai fod lle ar Fwrdd yr Awdurdod neu bwyllgor/is-bwyllgor i gynrychioli busnesau bach;

-          Dylid ystyried presenoldeb aelodau'r Awdurdod yn ystod eu cyfnod yn y swydd, a rhoi gwybod am hyn yn y cyfrifon;

-           Symlrwydd yn allweddol. Er mwyn lleihau problemau trawsffiniol, ni all yr Awdurdod weithredu mewn modd rhy wahanol i drefniadau presennol Cyllid a Thollau EM, neu bydd hyn yn achosi dryswch/anawsterau i drethdalwyr ac unrhyw asiant sy'n gweithredu ar eu rhan;

-          Mae angen iddo weithio i Gymru. Cyfle pwysig i adeiladu o'r newydd a chael pethau'n iawn y tro cyntaf - dysgu gwersi gan Gyllid a Thollau EM;

-          Mae lefel y cyfrinachedd sy'n ofynnol y tu hwnt i'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol ar hyn o bryd, ond mae Cyllid a Thollau EM wedi arfer â gweithio ar y lefel hon.

System drethi i Gymru

-          Angen polisïau treth yng Nghymru sy'n llwyddo'n well i sicrhau ymrwymiad;

-          Manteision o ran ceisio symleiddio'r rheolau yng Nghymru;

-          Dylai system drethi ar gyfer Cymru adlewyrchu'r system yn Lloegr er mwyn osgoi dryswch, oni bai bod manteision clir i wneud fel arall;

-          Dylid cynnal asesiad effaith treth ar unrhyw drethi arfaethedig y cynigir eu creu;

 Goruchwylio/Craffu ar Awdurdod Cyllid Cymru

-          A yw'r Awdurdod yn dod o dan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynteu'r Ombwdsmon Seneddol?

-          Mae Siarter y Trethdalwyr yn rhoi mesur i gymharu ag ef ond mae angen sefydlu llwybr clir i graffu ar yr Awdurdod hefyd. Pa fecanweithiau sydd ar waith i etholwyr wneud cwyn i'w Haelod Cynulliad? Sut mae Aelodau Cynulliad yn ymyrryd os oes problem fawr? A allai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod yn gyfrifol am graffu ar Awdurdod Cyllid Cymru gan ei fod yn gorff hyd braich i Lywodraeth Cymru? Sut mae'r Alban wedi ymdrin â hyn?

-          Dylai un o bwyllgorau'r Cynulliad fod yn gyfrifol am oruchwyliaeth strategol yr Awdurdod (yn debyg i gyfrifoldebau'r Pwyllgor Cyllid dros Swyddfa Archwilio Cymru);

 

Pwerau'r Awdurdod dros orfodi a chosbau

-          Angen tîm gorfodi cryf o'r cychwyn cyntaf (fel ei fod wedi'i sefydlu'n barod i ymdrin â threthi datganoledig yn y dyfodol);

-          Angen swyddogion lleol er mwyn sicrhau bod aelod o staff yr Awdurdod a all helpu ar gael i drethdalwyr;

-          Cyfryngwyr/hwyluswyr annibynnol, trydydd parti i gynnig Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod fel haen ychwanegol cyn tribiwnlys (A ddylid cael system tribiwnlysoedd yng Nghymru?);

-          Symleiddio ffurflenni a'u gwneud yn haws eu defnyddio;

-          Dylid ystyried graddfa gosbau sy'n gysylltiedig â throsiant busnes (yn y Bil mae rhai cosbau wedi'u graddio, ond nid pob un - dylai fod yn gyson?);

-           Angen deddfu ar gyfer efadu ac atal camddefnydd ond nid o reidrwydd ar gyfer osgoi (fel yn yr Alban);

-          Cyn pennu lefelau'r cosbau, mae angen gweld tystiolaeth o faint o gosb sy'n effeithiol er mwyn annog pobl i beidio â chamddefnyddio'r system.

-          Dylai fod yn ofynnol i Gyllid a Thollau EM anfon data a gwybodaeth am unrhyw achosion o efadu trethi eraill a all gael effaith ar drethi datganoledig Cymru.

Ymwybyddiaeth y cyhoedd o newidiadau i system drethi Cymru

-          Dylid cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyffredinol ynglŷn ag Awdurdod Cyllid Cymru a'i swyddogaethau, ac ymgyrch wedi'i thargedu ar gyfer y trethi bach;

-          Nid yw'r cyhoedd yn ymwybodol iawn o'r bwriad i gyflwyno trethi datganoledig ond, yn ymarferol, a oes angen i'r cyhoedd wybod am Awdurdod Cyllid Cymru os bydd Cyllid a Thollau EM yn cael ei ddefnyddio fel asiant casglu gan na fydd rhyw lawer yn newid i drethdalwyr mewn gwirionedd?

-          Mae angen trosglwyddo'n llyfn wrth gyflwyno'r newidiadau;

-          Cyrff proffesiynol yw'r rhai gorau i gyfathrebu ag ymarferwyr ynglŷn â'r newidiadau;

-          Tryloywder. Mae gan drethdalwyr hawl i wybod pwy sy'n casglu eu harian ac ar beth y mae'n cael ei wario - a ellid hysbysebu hyn yn y Siarter?

-          Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ofalus ar y cychwyn a pharcio unrhyw syniadau newydd neu gamau arloesol, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cael pethau'n iawn gan fod angen i'r cyhoedd fod â hyder yn y system;

-          Canmoliaeth ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth fframwaith yn gyntaf.

Ffeilio trethi ar-lein a darparu cyngor

-          Dylai ffeilio ar-lein fod yn opsiwn, gyda chefnogaeth ar gael;

-          Mae'n cael ei dderbyn yn eang erbyn hyn mai digidol yw'r dewis cyntaf, ar yr amod bod dewis arall, heb gosb, ar gael;

-          Mae cyswllt band eang yn broblem enfawr yng Nghymru;

-          Osgoi cyngor tramor a sicrhau bod y cwmwl yn aros yn yr awdurdodaeth gywir os caiff ei ddefnyddio ar gyfer systemau ar-lein;

-          Gallu cysylltu'n uniongyrchol â staff Cyllid a Thollau EM sy'n gwneud y gwaith casglu;

-          Dylai unrhyw gytundeb gwasanaeth neu Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda'r asiant casglu gynnwys ymgysylltu â chwsmeriaid.